Cafodd y ddrama gan Tim Price, The Radicalisation of Bradley Manning ei pherfformio gyntaf mewn ysgolion ar draws Cymru ym mis Ebrill 2012. Mae’n adrodd hanes y milwr Americanaidd 25 oed a gyhuddwyd o ryddhau 250,000 o negeseuon llysgenhadol a logiau milwrol cyfrinachol o’r rhyfeloedd yn Irac ac Afghanistan. Sut aeth o fod yn laslanc yng Ngorllewin Cymru, i hyn?
Ar gyfer The Radicalisation of Bradley Manning, cynhaliwyd cyfweliadau gyda John E McGrath, y dylunydd, Tim Price yr ysgrifennydd, Chloe Lamford a’r actorion Matthew Aubrey a Gwawr Loader.
Er mwyn helpu i astudio The Radicalisation of Bradley Manning, rydym yn meddwl ei bod yn bwysig bod athrawon a myfyrwyr yn siarad am hunaniaeth ac ymwybyddiaeth Draws. Mewn bywyd go iawn, Bradley Manning yw Chelsea Manning.
Pan fyddwn yn cyfeirio at Bradley Manning, rydym yn cyfeirio at y cymeriad yn y ddrama. I gyfoethogi eich dealltwriaeth o’r ddrama, a hunaniaeth rhywedd, rydym wedi creu’r adnoddau canlynol gyda mgynghorydd Traws Kay R. Dennis a cyfarwyddwr theatr, hwylusydd ac ysgrifennwr, Nerida Bradley.