Rydym wedi bod yn cydweithio â Counterpoints Arts, sy’n arwain y ffordd o ran newid canfyddiadau ynghylch ffoaduriaid drwy eu menter Simple Acts. Gweithredoedd bach bob dydd ydy Simple Acts i ysbrydoli newid a chwalu rhwystrau. Rydym yn rhannu’r un gred y gall celfyddydau ysbrydoli newid cymdeithasol a thrwy ymgynghori â’n Panel TEAM, rydym wedi cydweithio i greu Seven Simple Acts sy’n uniongyrchol gysylltiedig â’r syniadau sy’n sail i Go Tell the Bees.

Mae’r Seven Simple Acts wedi’u datblygu yn gyfres o weithgareddau, adnoddau a thasgau i’w defnyddio yn y dosbarth.

https://youtu.be/qxB3-sw2HAQ

plannwch-hedyn-300x300.jpeg

Plannwch Hedyn

Ystyriwch y pŵer sydd mewn hedyn bach. Yno yn eich llaw, y potensial i dyfu bwyd, creu cysgod a throi carbon deuocsid yn ocsigen. Plannwch, dyfrhewch, ac arhoswch am wyrth bob dydd. Gwahoddwch wenyn yn ôl i’ch gardd, stryd neu fan gwyrdd lleol. Helpwch blentyn i ddarganfod o ble mae ei fwyd yn dod. Neu dyfwch goeden a fydd un diwrnod yn cynnig cysgod i blant plant eu plant, ymhell ar ôl i ni fynd.

dysgwch-un-peth-newydd-am-natur-300x300.jpeg

Dysgwch Un Peth Newydd Am Natur

Dychmygwch pe byddai gennych chi athro mor syfrdanol a doeth â Natur. Yr un a allai eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth a rhyfeddod mewn pethau bob dydd. Ailddarganfod eich chwilfrydedd a’ch synnwyr o antur. Gwella eich llesiant. Dangos i chi bwysigrwydd parch a gostyngeiddrwydd.

Yr athro a allai ddweud wrthych bethau gwallgof sy’n synnu’ch meddwl, fel bod mwy o goed ar y Ddaear na sêr yn y Llwybr Llaethog. Neu fod jiraffod yn hoyw i raddau helaeth. Neu fod y cefnfor yn gartref i bron i 95% o’r holl fywyd.

Oni fyddech chi eisiau dysgu am hynny i gyd, ac yna ei rannu gyda phawb rydych chi’n cwrdd â nhw?

ewch-am-dro-300x300.jpeg

Ewch Am Dro

Ydych chi erioed wedi meddwl beth sy’n digwydd i chi wrth fynd am dro ym myd natur, pan fydd eich traed yn dechrau rhyngweithio â’r ddaear a sŵn gwynt mewn dail yn cyrraedd eich ymennydd?

Mae coed yn gollwng ffytoncidau, y cemegau sy’n ysgogi arogleuo sy’n lleihau hormonau straen. Sy’n golygu mai effaith y daith yw ei bod yn lleihau eich pryder; ond hefyd ei bod yn gwella’ch imiwnedd a’ch cof; yn eich cryfhau yn erbyn ffliw ac annwyd; yn eich gwneud chi’n fwy heini ac yn hapusach. Mae’r rhestr yn parhau. Ac os gwnewch hynny dro ar ôl tro, meddai ymchwil, mae’r buddion yn tyfu i fod yn rhyfeddod meddyginiaethol go iawn.

Felly, beth amdani?