149-NTW-ILLIAD-Farrows-Creative-copy.jpeg

Ynglŷn â’r Sioe

“In the beginning there was no Beginning,

And in the end, no End…”

Profiad theatr Ffwrnes cwbl newydd wrth i’r cyfarwyddwyr Mike Pearson a Mike Brookes ddod â’u gweledigaeth nodweddiadol i’r stori Roegaidd glasurol, Iliad.

Dyma ailadrodd stori wythnosau olaf Rhyfel Caerdroea ar ffurf amlgyfrwng, sy’n cael ei hadrodd gan gast o actorion Cymreig arbennig ynghyd â chriw o dduwiau busneslyd yn eu harddegau.

Iliad: Kings

RHAN UN

Dydd Llun 21 & Dydd Llun 28 Medi

Mae’r Groegiaid wedi bod ar y traeth ers naw mlynedd. Mae eu taith i achub Helen, y gwnaeth ei herwgipio ddechrau’r rhyfel gyda’r Troeaid, wedi’i rhwystro. Mae pawb mewn tymer; mae’r arweinwyr yn dadlau. Mae Achilles yn pwdu ac yn penderfynu peidio ag ymladd. Mae’r duwiau’n dechrau ochri.

A all y Groegiaid oroesi heb eu hymladdwr gorau? A fydd y Brenin Agamemnon yn mentro ar ei ben ei hun? A all rhyfelwr gorau Caerdroea, Hector, achub ei ddinas?

Golygfeydd o gyhuddo a drwgdeimlad, angerdd a phryder, brwdfrydedd ac amheuaeth, byrbwylltra a llwfrdra.

Iliad: The Husbands

RHAN DAU

Dydd Mawrth 22 & Dydd Mawrth 29

Mae’r Groegiaid wrth Wal y Troeaid, yn barod am frwydr. Ond mae pennaeth y fyddin Droeaidd, Hector, â chynllun i ddatrys y frwydr ddiddiwedd; dylai ei frawd Paris ymladd gŵr Helen, Menelaos, un i un; a’r enillydd yn ben.

Ond mae gan y Duwiau syniadau eraill…

A oes modd cyfaddawdu byth adeg rhyfel? Pwy fydd yn driw i’w gair? Ac a fydd y Duwiau yn gadael llonydd i’r bobl?

Golygfeydd o ddefod a sifalri, dichell a thwyll, hawlio ac ail-hawlio, rhagrith a dicter.

Iliad: All Day Permanent Red / Cold Calls

RHAN TRI

Dydd Mercher 23 & Dydd Mercher 30 Medi

Mae’r byddinoedd yn sïo. Mae taranau’n codi.

A gydag egni gwyllt, mae’r ddwy ochr yn rhyfela.