Cafodd y cynhyrchiad safle benodol hwn ar raddfa fawr ei berfformio mewn coetir hynafol ger Brynbuga, Sir Fynwy, a rhoddodd cipolwg byw i’r gynulleidfa ar fywyd – a marwolaeth – yn ffosydd a chaeau brwydro’r Somme.
Wedi’i ysbrydoli gan gerdd yr awdur Cymreig Owen Sheers, Mametz Wood, roedd yn defnyddio deunydd ysgrifenedig gan rai o’r beirdd fu’n ymladd yn un o frwydrau mwyaf gwaedlyd y Somme, neu â’i gwelodd, Brwydr Mametz Wood, lle cafodd 4,000 o’r 38fed Llu (Cymreig) eu lladd neu eu hanafu.
Cafodd Mametz ei gyd-gomisiynu gan National Theatre Wales a 14-18 NOW, WW1 Centenary Art Commissions, a’i gefnogi yn defnyddio arian cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Arts Council England a Chronfa Treftadaeth y Loteri.
★★★★ ”fresh and visceral” The Guardian
★★★★ ”The finest commemoration of the First World War centenary I’ve seen to date” The Telegraph
“Mametz seems likely to be the finest commemoration of the Welsh contribution to the Great War.” The Arts Desk
Awdur: Owen Sheers
Cyfarwyddwr: Matthew Dunster
Dylunydd: Jon Bausor
Cyswllt Creadigol: Christopher Morris
Dylunydd Golau: Lee Curran
Dylunydd Sain:George Dennis
Cyfarwyddwr Symudiad: Christopher Akrill
Cyfarwyddwr Ymddangosol: Gethin Evans
Cyfarwyddwr Cerdd: Stacey Blythe
Hyfforddwr Lleisiol: Simon Reeves