OBR-new-for-web.png

Ynglyn â'r Sioe

“One minute we had customers, the next minute there was no-one.”

Mewn pentref coll, lle aneglur ers ail-lunio’r ffiniau, yn cuddio o dan briwsionyn ar y map, mae Bear Ridge Stores yn dal i sefyll.

Ar ôl can mlynedd, mae’r cigydd a’r siop groser deuluol – lle ar gyfer manion bywyd, nwyddau gwaharddedig, a’r pwmp petrol olaf  am 30 milltir – yn awr yn ddistaw.

Ond nid yw’r perchnogion John Daniel a Noni yn mynd i unman.

Maent yn yfed yr hyn sydd ar ôl o’r whisgi yn herfeiddiol ac yn cofio dyddiau da, pan oedd pawb ar yr un ochr a’r hen iaith yn disgleirio.

Y tu allan yn y tywyllwch, mae ffigur yn symud tuag atynt…

Mae un o awduron enwocaf Cymru, Ed Thomas (cyd-grëwr Y Gwyll) yn dychwelwyd i’r llwyfan gyda’r stori lled-hunangofiannol hon am y lleoedd yr ydym yn eu gadael ar ôl, y marciau annileadwy y maent yn eu gwneud arnom ni, a’r atgofion annibynadwy yr ydym yn dal ein gafael ynddynt.

Bod Yn Gyfarwyddwr Sy’n Dod I’r Amlwg Ar On Bear Ridge

No Petrol for 12 Miles

I ddatgelu ac ymchwilio ymhellach i fyd On Bear Ridge, mae National Theatre Wales gyda’i awdur a’i gyd-gyfarwyddwr Ed Thomas, wedi creu cyfres o osodweithiau safle-benodol yn yr awyr agored.

Bydd cynulleidfaoedd yn Theatr y Sherman, Caerdydd a’r Royal Court, Llundain hefyd yn gallu profi’r gosodwaith drwy ffilm VR fydd ar gael i’w gwylio yn y ddwy theatr gan olygu y bydd tirwedd On Bear Ridge yn hygyrch yng nghanol y dinasoedd prysur hyn.

Bydd y profiad VR ar gael yn Theatr y Sherman 3 – 5 Hydref, ac yn y Royal Court 24 Hydref – 23 Tachwedd.

LINK TO PROJECT

Cast

Rakie Ayola fel Noni

Rhys Ifans fel John Daniel

Jason Hughes fel The Captain

Sion Daniel Young fel Ifan William

Tîm Creadigol

Awdur: Ed Thomas

Cyd-Gyfarwyddwyr: Vicky Featherstone & Ed Thomas

Dylunydd: Cai Dyfan

Cyfansoddwr: John Hardy Music

Dylunydd Golau: Elliot Griggs

Dylunydd Sain: Mike Beer