“One minute we had customers, the next minute there was no-one.”
Mewn pentref coll, lle aneglur ers ail-lunio’r ffiniau, yn cuddio o dan briwsionyn ar y map, mae Bear Ridge Stores yn dal i sefyll.
Ar ôl can mlynedd, mae’r cigydd a’r siop groser deuluol – lle ar gyfer manion bywyd, nwyddau gwaharddedig, a’r pwmp petrol olaf am 30 milltir – yn awr yn ddistaw.
Ond nid yw’r perchnogion John Daniel a Noni yn mynd i unman.
Maent yn yfed yr hyn sydd ar ôl o’r whisgi yn herfeiddiol ac yn cofio dyddiau da, pan oedd pawb ar yr un ochr a’r hen iaith yn disgleirio.
Y tu allan yn y tywyllwch, mae ffigur yn symud tuag atynt…
Mae un o awduron enwocaf Cymru, Ed Thomas (cyd-grëwr Y Gwyll) yn dychwelwyd i’r llwyfan gyda’r stori lled-hunangofiannol hon am y lleoedd yr ydym yn eu gadael ar ôl, y marciau annileadwy y maent yn eu gwneud arnom ni, a’r atgofion annibynadwy yr ydym yn dal ein gafael ynddynt.
I ddatgelu ac ymchwilio ymhellach i fyd On Bear Ridge, mae National Theatre Wales gyda’i awdur a’i gyd-gyfarwyddwr Ed Thomas, wedi creu cyfres o osodweithiau safle-benodol yn yr awyr agored.
Bydd cynulleidfaoedd yn Theatr y Sherman, Caerdydd a’r Royal Court, Llundain hefyd yn gallu profi’r gosodwaith drwy ffilm VR fydd ar gael i’w gwylio yn y ddwy theatr gan olygu y bydd tirwedd On Bear Ridge yn hygyrch yng nghanol y dinasoedd prysur hyn.
Bydd y profiad VR ar gael yn Theatr y Sherman 3 – 5 Hydref, ac yn y Royal Court 24 Hydref – 23 Tachwedd.
LINK TO PROJECT
Rakie Ayola fel Noni
Rhys Ifans fel John Daniel
Jason Hughes fel The Captain
Sion Daniel Young fel Ifan William
Awdur: Ed Thomas
Cyd-Gyfarwyddwyr: Vicky Featherstone & Ed Thomas
Dylunydd: Cai Dyfan
Cyfansoddwr: John Hardy Music
Dylunydd Golau: Elliot Griggs
Dylunydd Sain: Mike Beer