unnamed.jpeg

Am y ffilm

Mae amser yn cael ei atalnodi gan eiliadau. Eiliadau sy’n newid pethau. Eiliadau sy’n gwneud inni stopio.

Roedd 8.07pm ar noson y 15fed o Chwefror, 1996, yn un o’r eiliadau hyn. 25 mlynedd yn ddiweddarach, mae arllwysiad olew y Sea Empress yn dal i fod yn ffres yng nghof Sir Benfro.

O syrffwyr i bysgotwyr, gweithwyr purfa olew i gapteiniaid llongau, cadwraethwyr i wleidyddion, dewch i glywed y straeon personol gan y bobl a oedd yno. Gyda delweddau breuddwydiol a cherddoriaeth atmosfferig gan John Lawrence o Gorky’s Zygotic Mynci, mae Sea Empress 25 yn adrodd hanes trychineb amgylcheddol y mae ei heffaith yn dal i gael ei theimlo heddiw.

Mae Sea Empress 25 yn ffilm gan Gavin Porter, a wnaed mewn cydweithrediad â Postcards and Podcasts.

Gyda diolch i Abigail Sidebotham, mae ei gwaith ar Archif Prosiect Sea Empress yn cael ei gynnal yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Casgliad y Werin ar-lein, os hoffech ddarganfod mwy o wybodaeth.

https://vimeo.com/515317559

Credydau

Cyfarwyddwyd gan Gavin Porter

Camera Wayne Boucher, Rowan Chitania, Mei Lewis

Golygwyd gan Gavin Porter

Dylunio Di Ford

Ysgrifennwyd gan Naomi Chiffi

Adroddiant Phil Okwedy

Cerddoriaeth John Lawrence, Kosta T, Alejandro Remeseiro

Cyfweliadau Naomi Chiffi, Rachel John

Cynhyrchwyr Naomi Chiffi, Devinda De Silva

Gyda diolch i bobl Sir Benfro a TEAM NTW

Diolch yn arbennig i Nick Ainger, Abigail Beck, Captain Philip Bray, Tommy Bowler, Blaise Bullimore, Gareth Davies, Shirley Draper, Captain Hans Hansen, David Hawthorne, Rachel Holland, Phil Newman, Brigitte Osborne, Lucy Paice, David Perry, James Purchase, Abigail Sidebotham, Peter “Chippy” Thomas, Stuart Walder, The Castle Inn, Manorbier, a Postcards & Podcasts