Ym mis Awst 2010, aeth National Theatre Wales ag un o’r dramâu cyntaf yn Ewrop i gael eu recordio i ganol Bannau Brycheiniog. Mewn cydweithrediad rhwng y cyfarwyddwr Mike Pearson a’r artist Mike Brookes, a chyda fersiwn newydd o’r testun gan yr awdur Kaite O’Reilly, cyflwynodd chweched cynhyrchiad National Theatre Wales drasiedi Groeg i’r llwyfan cyfoes.
Wedi’i leoli yng nghanol Bannau Brycheiniog, aeth The Persians â chynulleidfaoedd i bentref Almaenaidd ffug na welir yn aml gan y cyhoedd. Roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi caniatáu i ni gael mynediad i ran unigryw o’u cyfleuster, yr oedd y pentref Almaenaidd yn ei chanol. Rhoddwyd cynulleidfaoedd ymhlith yr elfennau i gael profiad amlgyfrwng unwaith mewn bywyd o hanes brwydr golledig a’r hyn a ddaeth yn ei sgîl.
Cyfarwyddwr: Mike Pearson
Awdur: Katie O’Reilly
Dylunydd: Simon Banham
Dylunydd Cysyniadol: Mike Brookes
Cerddoriaeth: John Hardy
Cyfarwyddwr Ymddangosol: Mared Swain
Rosa Casado
Richard Harrington
Richard Lynch
Richard Huw Morgan
Paul Rhys
John Rowley
Rhys Rusbatch
Sian Thomas