O’r tîm a greodd ein fersiwn drawiadol o The Persians gan Aeschylus ar feysydd hyfforddi milwrol yng Nghanolbarth Cymru, ail-ddychmygwyd hanes Caius Martius – Coriolanus – yn oes newyddion 24 awr, diwylliant selebs a gwleidyddiaeth fyd-eang newydd.
Mewn cysylltiad â’r Royal Shakespeare Company. Comisiynwyd ar gyfer Gŵyl Fyd-eang Shakespeare, a gynhyrchwyd gan y Royal Shakespeare Company ar gyfer Gŵyl Llundain 2012.
Perfformiwyd y cynhyrchiad yn Hangar 858, hangar awyrennau’r Ail Ryfel Byd yn Sain Tathan yr RAF ym Mro Morgannwg. Clywodd aelodau’r gynulleidfa’r lleisiau a’r seiniau trwy glustffonau gan ddefnyddio technoleg disgo fud, a gallent symud yn ddigyfyngiad o gwmpas y lle. Roedd dwy sgrin fawr yng nghanol y lle hefyd yn dangos yr hyn a oedd yn digwydd oddi fewn y dorf ac oddi uchod.
Cyfarwyddwr/Dramatwrg: Mike Pearson
Cyfarwyddwr/Dylunydd: Mike Brookes
Dylunydd: Simon Banham
Cyfansoddwr: John Hardy
Dylunydd Sain: Mike Beer
Dylunydd Clyweled: Jon Street
Dylynudd Cynorthwyol: Ruth Stringer
Cyfarwyddwr Ymddangosol: Lowri Jenkins
Brendan Charleson
Jonny Glynn
Nia Gwynne
Richard Harrington
Chris Jared