Storm-1.-Nothing-remains-the-same-at-National-Theatre-Wales.-Photo-by-Mark-Douet.-_50A8298.jpg

Ynglyn â'r Sioe

Ailgread barddonol, sinematig o ddau lyfr cyntaf Metamorphoses yr awdur Rhufeinig Ovid.

Yn ei naratif epig, a gwblhawyd yn fuan cyn iddo gael ei alltudio yn 8AD, mae Ovid yn cysylltu “yn un cyfanwaith artistig cytûn, holl straeon mytholeg glasurol”. Yn anad dim, mae’n adrodd am newidiadau a thrawsnewidiadau anhygoel a gwyrthiol, yn natur pobl a phethau.

Mewn cyfuniad theatrig trawiadol o eiriau, sain a digwyddiadau annisgwyl, mae STORM.1: Nothing Remains the Same yn ymdrin â dwy o straeon cynnar Ovid.

Rhaglen

NTW_STORM1_Programme_ART-copy.pdf

Tîm creadigol

Co-creator & Narrator: Mike Pearson

Co-creator: Mike Brookes

Sound Designer: Mike Beer

Soundscape: John Hardy Music

Narrator: Aimee-Ffion Edwards

Storm-1.-Nothing-remains-the-same-at-National-Theatre-Wales.-Photo-by-Mark-Douet.-_50A8447.jpg

Storm-1.-Nothing-remains-the-same-at-National-Theatre-Wales.-Photo-by-Mark-Douet.-_50A8342.jpg


Mae The Storm Cycle National Theatre Wales yn datblygu ar draws cyfres o ddigwyddiadau wedi’u dyfeisio, eu cynllunio a’u cyfarwyddo gan ein cydweithiwr hirsefydlog a’n Hartist Cyswllt cyfredol Mike Brookes.

Mae’r gweithiau amlgyfrwng hyn yn cael eu datblygu a’u perfformio mewn gwahanol leoliadau ar draws Cymru yn 2018-2020, mewn amrywiaeth o ffurfiau a graddfeydd, ac yn archwilio dwy thema allweddol; gwirionedd a thystiolaeth. Byddant yn dod i ben gyda chreu cynhyrchiad pwysig, newydd ar raddfa fawr ar gyfer rhaglen 10fed pen-blwydd NTW yn 2020.

Mae The Storm Cycle yn adeiladu ar y dulliau a’r technegau y mae Brookes wedi’u defnyddio yn ei drioleg o gynyrchiadau arloesol gyda NTW a Mike Pearson: The Persians (2010), Coriolan/us (2012) ac Iliad (2015). Ar draws y daith newydd hon rydym yn gobeithio ehangu’r dulliau hyn ymhellach, ac agor rhai posibiliadau newydd – gan ddefnyddio’r profiadau a’r arbenigedd a gasglwyd o amgylch tri degawd Brookes o wneud theatr gydweithredol yng Nghymru, a hefyd yn gwahodd ac yn agor sgyrsiau gyda chydweithwyr a chynulleidfaoedd newydd.